SpanglefishCyngor Cymuned Cilybebyll | sitemap | log in
Newyddion
 
Bydd croeso cynnes i unrhyw grลตp neu sefydliad sydd yn dymuno hysbysebu newyddion neu ddigwyddiad sydd yn berthnasol i ardal Cilybebyll wneud hynny drwy gysylltu â Chlerc y Cyngor ar cilybebyll@talktalk.net
 
Goleuo'r Goeden Nadolig i gefnogi Harry's Fund
29 November 2011

Unwaith eto eleni, mae'r Cyngor wedi trefnu bod Sion Corn yn ymweld a'r Alltwen i oleuo'r Goeden Nadolig.  Mae e wedi llwyddo i ffeindio amser am 6.30o.g. ar Nos Lun 05 Rhagfyr 2011, ac mae'n edrych ymlaen at glywed Band Pres Ieuenctid Cwmtawe a'r Cylch yn chwarae carolau i'r plant a'r oedolion.

 

Eleni fe fydd cyfle i gefnogi Harry's Fund wrth noddi un o'r goleuadau ar y goeden.  Ewch i Alltwen Stores i gefnogi'r fenter, necu ewch at www.HarrysFund.org 

Mae'r Cyngor yn falch iawn eleni i gydnabod ffrindiau yn y gymuned busnes, sydd wedi cytuno i estyn eu cefnogaeth hael. Mae hyn yn cynnwys y busnesau lleol canlynol -

Swansea Wedding Cars

Headquarters Alltwen

Clwb Rygbi yr Alltwen

Alltwen Stores

.......ac eraill sydd ddim mor lleol, sy'n cynnwys

County Contracts Flooring, Glais

Second Life Products Wales, Cwmgors

DNA (Wales) Ltd, Pontardawe

Lliw Building Supplies Ltd, Pontardawe

Fel arfer, diolch i Egwys Sant Ioan yr Alltwen fydd yn darparu lluniaeth ysgafn, i Heddlu De Cymru o Bontardawe, a hefyd i'r "bright sparks" yng Nghyngor Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot.

Gobeithio bydd pawb yn mwynhau!

View All Stories




Click for Map