Cyngor Cymuned Cilybebyll | sitemap | log in
|
![]() |
||
Cyngor Cymuned CilybebyllYn ardal Cilybebyll, mae Cyngor Cymuned Cilybebyll yn cynrychioli’r lefel agosaf o lywodraeth leol at y bobol, yn ategi at wasanaethau a gweithgareddau a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot. Sefydlwyd y Cyngor yn wreiddiol fel Cyngor Plwyf Cilybebyll ym 1894, ond fe ddaeth yn Gyngor Cymuned Cilybebyll yn Ebrill 1974.
Mae’r Cyngor yn darparu’r gwasanaethau a gweithgareddau sy’n cynnwys y canlynol -
· Man Chwarae Brynmorgug, Alltwen
· Parc Gwynfryn, Alltwen
![]() · Man Chwarae a Meysydd Chwaraeon Parc Rhos
![]() · Canolfan Gymuned yr Alltwen – Gofalydd Mr S Gardiner ar 07855 572641
· Canolfan Gymuned y Rhos – Gofalydd Mrs A Coombs ar 01792 862428
Mae’r Canolfannau Cymuned ar gael i’w llogi a’u defnyddio gan grwpiau lleol. Dylid holi ynglŷn â nhw drwy gysylltu gyda’r gofalwyr, ond dylid cyfeirio urhyw ymholiad ynglŷn â’r meysydd chwarae yn syth at Glerc y Cyngor.
Mae’r Cyngor yn cynrychioli’r gymuned lleol ar amrywiad o faterion, yn cysylltu gyda a throsglwyddo cynrychiolion at Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Heddlu De Cymru ac eraill, yn rheolaidd. Mae ganddo statws ymgynghoriad statudol ynglŷn ag amryw fater, gan gynnwys ceisiadau cynllunio, heolydd a phynciau amgylcheddol eraill. Mae’r Cyngor hefyd yn cefnogi cyrff a chymdeiathasau lleol drwy ddarparu grantiau bychan, a thrwy gynnig cymorth sy’n berthnasol at eu gweithgareddau, lle mae hyn yn bosibl. Mae’n cydweithio i gynnal llwybrau cyhoeddus y gymuned.
Cyflogir pedwar aelod staff rhan-amser i sicrhau bod y safleodd, y gweithgareddau a’r cyfrifoldebau i gyd yn cael eu cyflawnu ar ran y gymuned.
Ariennir gweithgareddau’r Cyngor drwy archebiant ar bob tŷ, wedi ei gasglu fel rhan o Dreth y Cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Castell Nedd Port Talbot. Yn y flwyddyn ariannol 2010/11, swm yr archebiant oedd £80,000 yn cynrychioli £45.74c y flwyddyn oddi wrth bob tŷ “band D” yng Nghilybebyll. Mae holl weithgareddau a gwariant y Cyngor yn cael ei fonitro bob blwyddyn gan archwiliwr annibynnol a benodwyd gan yr Archwiliwr Cyffredinol dros Gymru.
|
![]()
|
|
![]() |
||